Llun Alex Jones ar wal y Brangwyn
Roedd lluniau golau o ddau o sêr rhyngwladol Cymru i’w gweld ar wal Neuadd y Brangwyn yn Abertawe neithiwr, wrth i Eisteddfod yr Urdd gyhoeddi manylion y cyngherddau yn ystod yr ŵyl.

Roedd lluniau o Alex Jones, cyflwynydd rhaglen The One Show ar BBC 1 a’r canwr West End John Owen-Jones wedi eu taflu ar wal y neuadd – nhw fydd yn agor yr Eisteddfod eleni.

Fe fydd amrywiaeth o artistiaid yn ymuno â nhw yn y cyngerdd agoriadol, gan gynnwys enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel  eleni, Elgan Llyr Thomas, y ddawnswraig Cerian Phillips a Dawnswyr Talog, Ysgol Gerdd Mark Jermin a llawer mwy.

Medden nhw

“Mae’r Urdd yn unigryw i ni fel Cymry a dw i mor ddiolchgar am yr holl gyfleoedd ges i o gael mynd ar lwyfan a pherfformio,” meddai Alex Jones –  cyn-ddisgybl  yn Ysgol Gymraeg Rhydaman ac aelod o Alwyd Penrhyd.

“Ro’n i’n eitha’ swil fel plentyn felly roedd cael mynd ar y llwyfan fel rhan o barti dawnsio neu ganu yn gymaint o hwb. Heb y cyfleoedd yna, efallai na fyddwn i fyth wedi bod o flaen cynulleidfa pan o’n i’n ifanc”.

“Rwy’n caru perfformio yng Nghymru ac yn methu aros i gael bod ar lwyfan y pafiliwn, gan fod y gynulleidfa bob amser yn wresog ac yn creu awyrgylch wych,” meddai John Owen-Jones, sy’n dod o Borth Tywyn ac sy’n canu yn The Phantom of the Opera yn Llundain.


Llun o John Owen-Jones ar wal y Brangwyn

Digwyddiadau hanesyddol

Fe fydd y sioeau lleol yn cofio dau ddigwyddiad hanesyddol i’r ardal.

Bydd cast y Sioe Ieuenctid yn edrych yn ôl ar y digwyddiadau a ddaeth i ran Abertawe 70 mlynedd i’r penwythnos yma (19 – 21 Chwefror), yn ‘Abertawe’n Fflam’ wrth iddynt ail greu’r ‘blitz’ tri diwrnod.

Bydd y criw’r Sioe Gynradd yn olrhain hanes llongddrylliad yr Helvetia ar draeth Rhosili yn 1887 yn ‘Melltith yr Helfeshia’.