Does gan y Cynulliad Cenedlaethol ddim digon o aelodau i sicrhau annibyniaeth barn – dyna oedd un o negeseuon Dafydd Elis-Thomas mewn darlith i ddathlu 50 mlwyddiant y cylchgrawn Barn.

Fe bwysleisiodd cyn Lywydd y Cynulliad hefyd bod annibyniaeth barn yn bwysig mewn gwleidyddion – a hynny ar ôl gwrthdaro rhyngddo ag arweinyddiaeth Plaid Cymru tros bleidlais o ddiffyg hyder mewn Gweinidog.

Roedd rhai wedi dyfalu y gallai hynny arwain AC Dwyfor Meirionnydd i adael y blaid y bu’n Llywydd arni ond mae wedi dweud unwaith eto na fydd yn gwneud hynny.