Mae’r Eisteddfod am ddysgu plant i ddefnyddio Twitter a Facebook yn Gymraeg.

Bwriad yr Eisteddfod yn Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf  yw cydweithio gyda disgyblion ysgolion cynradd a rhai iau yr ysgolion uwchradd.

“Mae yna ryw gred mai Saesneg ydi iaith Facebook a Twitter,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Rydan ni am weld a oes modd i ni ddysgu’r plant a’r bobol ifanc i drydar trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Am y tro cyntaf mae criw o bobol sy’n hybu defnydd y Gymraeg ar y We, Hacio’r Iaith, yn cynnal sesiynau dysgu y tu ôl i’r Babell Lên, yn y Gefnlen, yr wythnos yma.