Y Gemau Olympaidd yn Llundain sydd wedi ennill y ras gynta’ rhyngddyn nhw a’r Eisteddfod Genedlaethol – wrth i Usain Bolt a’i ras 100m dorri ar draws darllediad Radio Cymru o Gymanfa’r brifwyl neithiwr.

A’r gynulleidfa yn Llandw newydd ddechrau canu pennill ola’ eu hemyn ola’ ar y dôn Arwelfa, dyma lais cyhoeddwraig yn torri ar draws y canu ac yn trosglwyddo’r awyr i sylwebydd yn y Stadiwm Olympaidd yn Llundain.

Ymhen ychydig dan ddeg eiliad, roedd y ras drosodd.

Ond doedd yna ddim dychwelyd at y gymanfa. John ac Alun afaelodd yn y baton wedyn.