Sgrifennu er mwyn teimlo’n well  y bu Euryn Ogwen erioed. Ond eleni, mae wedi cyhoeddi cyfrol o’i gerddi – gyda phob ceiniog o’r breindal yn mynd i gronfa Y Barri ar gyfer y brifwyl.


“Y thema trwy fy ngwaith i ydi ‘newid’,” meddai wrth Golwg360. “Dw i’n gyfforddus iawn efo’r ansicrwydd hwnnw. Pan mae amgylchiadau’n newid, pan mae rhywun yn mynd i oed, pan mae pob math o bethau’n digwydd…”

Cafodd y gyfrol, Tywod a Sglodion, ei bwrw i’r byd yn Llyfrgell tref Y Barri nos Iau ddiwetha’.

‘Reit ddychanol’

“Dydw i ddim yn fardd cystadleuol,” meddai Euryn Ogwen wedyn, “ond dw i’n meddwl am bethau ac yn licio eu dweud nhw. A’r tro yma, dw i’n reit ddychanol am y Gymru yma ydan ni’n byw ynddi hefyd.”