Arddangosfa Panasonic
Fe fydd canolfan ymchwil wyddonol newydd yn cael ei hagor yng Nghaerdydd gan y cwmni rhyngwladol Panasonic.

Fe gafodd y cyhoeddiad ei wneud ar Faes yr Eisteddfod lle mae gan y cwmni arddangosfa yn y pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Fe fydd yn golygu canolfan ymchwil i gelloedd tanwydd ar gyfer systemau gwresogi ac ynni mewn tai, gyda bron £½ miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.