Lesley Griffiths yn lansio ymgyrch rhoi organau
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud ei bod hi am gynnal ymgyrch farchnata “rymus” er mwyn gwneud yn siwr fod pobol yn gwybod lle mae Llywodraeth Cymru’n sefyll ar fater rhoi organau.

Mae’r Llywodraeth yn ymgynghori tan Fedi 10 ar system ble bydd pobol yn cael eu cynnwys yn awtomatig ar restr rhoi organau.

Ar Faes yr Eisteddfod heddiw, fe wadodd y Gweinidog fod yna gymhlethdodau’n mynd i godi wrth geisio diffinio pwy’n union fydd yn cael eu rhoi ar y rhestr.

“Mae ein cynlluniau ni’n eglur,” meddai Lesley Griffiths. “Bydd myfyrwyr sydd wedi byw yng Nghymru ers chwe mis yn cael eu hystyried fel dinasyddion, a byddwn ni’n defnyddio’r rhestr etholiadol fel sylfaen.”