Dr Dylan Jones
Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Bro Morgannwg yn dweud ei fod o’n syniad “adeiladol” iawn cael cannoedd o blant cylchoedd meithrin yr ardal i agor y Babell Lên yn swyddogol.

“Roedd cannoedd ohonyn nhw yno,” meddai’r Dr Dylan Jones, “ac mae’n ddechrau adeiladol iawn ar gyfer gweddill yr wythnos.”

Eleni, am y tro cynta’, fydd yna ddim Pasiant y Plant ymhlith gweithgareddau’r brifwyl, ond fe fydd Pasiant Meithrin yn cael ei gynnal ar lwyfan y Pafiliwn am 11 o’r gloch fore Sul ar y thema ‘Cadw’n Heini yn y Fro’.