Ysgol feithrin Cogan ym Mro Morgannwg sydd wedi creu’r gwaith celf yn y Ganolfan Groeso.

Pan ofynnodd athrawes i’r plant “Yn lle fyddwch chi’n hoffi gwrando ar stori?” dangosodd un ferch lun o gadair ei modryb.

O edrych yn fanylach, fe welson nhw mai cadair Eisteddfod Genedlaethol 1881 oedd hi, a gafodd ei hennill gan Evan Rees (enw barddol ‘Dyfed’).

Fe fu’r plant a’u rhieni wedyn yn ymchwilio i gysylltiadau eisteddfodol yr ardal, a ffrwyth yr ymchwil hwnnw ydi’r gwaith celf a welwch chi ar eich llaw chwith wrth i chi ddod i’r Maes.