Leighton Andrews
Mae angen i bapurau bro wneud y gorau o’r cyfryngau newydd a thechnoleg, meddai Leighton Andrews, y Gweinidog sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg.

Ddydd Sadwrn yn yr Eisteddfod, fe fydd yn dweud wrth gyfarfod cenedlaethol y Papurau Bro i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddod o hyd i gynulleidfaoedd newydd ac i gysylltu â’r genhedlaeth ifanc.

“R’yn ni am i bobol weld bod y Gymraeg yn iaith fodern, fyw,” meddai. “ Mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod yr iaith ar gael i bawb trwy bob math o gyfathrebu.”