Mae pentre’ chwaraeon yr Urdd ar faes Glynllifon wedi cau’n gynnar oherwydd y tywydd gwlyb.
Stondinau chwaraeon wedi cau'n gynnar

Mae’r cyfleusterau saethyddiaeth, pêl-droed, canwio a’r beiciau cwads wedi eu cau i lawr, gan ei bod hi’n beryg bywyd i blant a phobol ifanc fod yn taflu saethau ac yn chwarae yn y tywydd hwn.

At hynny, mae sawl stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri wedi cau cyn cinio heddiw, wrth i’r glaw barhau i syrthio a’i gwneud hi’n wlyb a mwdlyd dan draed, ac yn gyffredinol ddigysur.

Roedd yna gannoedd o bobol yn mochel yng Nghaffi Mr Urdd amser cinio heddiw, a neb yn gallu manteisio ar y byrddau picnic sydd wedi eu gosod o flaen y llwyfan perfformio ar y Maes.