Sian a Guto - dau ar daith i Batagonia eleni
Mae Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru wedi cyhoeddi enwau’r  21 person ifanc sydd wedi eu dewis i fynd ar daith i Batagonia rhwng Hydref 24 a Tachwedd 6 eleni.

Dyma nhw:

  • Catrin Williams, Catrin Cox, Luned Phillips a Anna o Ysgol Plasmawr, Caerdydd
  • Ioan Williams, Rhun Dafydd, Bethany Hawkins a Harri ForestDavies o Ysgol Bro Morgannwg, Y Barri
  • Cerys Harries, Guto Rhys Harries a Hanna Thomas o Ysgol Y Preseli, Crymych
  • Freyer Howells a Sian Roberts o Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Powys
  • Martha Rhys a Efa Dafydd o Ysgol Maes Yr Yrfa, Cefneithin
  • Eira Evans a Meleri Morgan o Ysgol Tregaron, Ceredigion
  • Catrin Raymond o Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun, Sir Benfro
  • Sioned Evans o Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin
  • Sian Williams o Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan
  • Sophie Ann Nicholls o Ysgol Gyfun Llanhari, Rhondda Cynon Taf

Dyma’r pumed tro i’r Urdd a Mentrau Iaith Cymru gydweithio wrth drefnu’r daith i Batagonia, gyda chymorth swyddogion y Fenter Iaith ym Mhatagonia.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r bobl ifanc wedi gwneud llawer i helpu’r gwledydd y maen nhw wedi ymweld â nhw, trwy ail-baentio ysgolion, helpu mewn ysgolion meithrin, a chystadlu yn Eisteddfod y Wladfa.

Codi arian

Mae’n rhaid i bawb sy’n mynd ar y daith godi £2,000 tuag at y costau o hedfan i Dde America. Ond mae’r profiad yn werth hynny, meddai tri o’r bobol ifanc dan sylw:

‘‘Bydd gweld mwy o bobol yn siarad yr iaith yn rhoi gobaith i mi, ac yn rhoi’r gallu i mi ddangos i bobol eraill ar ôl dod adref bod pwrpwas i’r iaith,’’ meddai Efa Dafydd o Ysgol Maes Yr Yrfa.

‘‘Rwy’ i wedi bod yn cynnal llawer o foreuon coffi a golchi llawer o geir ar gyfer codi arian,’’ meddai Sian Williams o Ysgol Llanbedr Pont Steffan wedyn.

‘‘Un o’r pethau pwysica’ r’yn ni am wneud draw yno, yw i hybu’r iaith Gymraeg i’r genhedlaeth ifanc,’’ meddai Guto Rhys Harris o Ysgol y Preseli, Crymych.