Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Cafodd cynllun i greu “diwylliant arloesi” ymysg pobol ifanc yng Ngwynedd ac Ynys Môn hwb ariannol ychwanegol wrth i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gyhoeddi £60,000 ar gyfer Llwyddo’n Lleol.

Mae’r cynllun yn rhan o brosiect sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ledled y pedwar awdurdod lleol yng Ngogledd Orllewin Cymru. Bydd y £60,000 yn mynd tuag at weithgareddau yng Ngwynedd ac Ynys Môn ac mae wedi dod o raglen Ardal Adfywio Môn a Menai Llywodraeth Cymru.

Gwnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â stondin Cyngor Gwynedd yn Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon. Bwriad y cynllun ydi atal y llif o bobol ifanc sy’n symud o gefn gwlad.

“Mae’n bwysig bod gan bobl ifanc y cyfle i ddilyn gyrfa yn yr ardal leol.  Mae Llwyddo’n Lleol yn helpu i wneud hyn drwy roi hyder a sgiliau arloesi i bobl ifanc fydd yn eu tro o gymorth i ddatblygu’r economi leol,” meddai Carwyn Jones.

“Mae yna ganlyniadau llwyddiannus eisoes o ganlyniad i waith Llwyddo’n Lleol ac rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy yn hyn o beth yn y dyfodol.”