Gwersyll yr Urdd, Llangrannog
Fe allai gwersyll yr Urdd Llangrannog ddod yn ganolfan sy’n arbenigo mewn gwyliau pysgota, cerdded, beicio a marchogaeth, yn ogystal â bod yn gyrchfan i aelodau’r mudiad.

Wrth annerch cynhadledd y wasg y bore yma, roedd Steff Jenkins, Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog, yn dweud y bydd “grwpiau newydd” yn gallu dod i aros yno, wrth iddyn nhw dargedu ysgolion a mudiadau ieuenctid eraill sydd y tu allan i’r cleientiaid traddodiadol.

“Trwy wella’r cyfleusterau llety, r’yn ni’n gobeithio gwella’r gwasanaeth i gwsmeriaid cyrfredol, yn ogystal ag edrych i geisio am Raddfa 5 seren gan Croeso Cymru ar gyfer Canolfannau Awyr Agored,” meddai Steff Jenkins.

“Fe fydd y cynllun yn creu chwech a hanner o swyddi yn ychwanegol at y 105 sy’n cael eu cyflogi’n barod gan y gwersyll.

“R’yn ni hefyd yn amcangyfri’ fod y gwersyll yn cyfrannu £3m i’r economi lleol oherwydd ein polisi o gefnogi cyflenwyr a busnesau lleol.”