Golygfa o Mbale, Uganda
Mae un o fosus gwersyll Glan-llyn yn mynd i fod yn mynd â chriw o bobol ifanc i Affrica dros yr ha’, ac fe fydd y mis y maen nhw’n bwriadu ei dreulio yn Uganda yn cael ei ffilmio ar gyfer S4C.

Fel rhan o gyfres plant a phobl ifanc, Newid Byd, fe fydd Arwel Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr gwersyll Urdd Glan-llyn, a phedwar o bobol ifanc yn cael eu ffilmio’n gweithio ar brosiectau amgylcheddol a dyngarol yn un o wledydd tlota’r byd.

Ar gyfres cyfres y llynedd, fe fu tim o bedwar o bobol ifanc yn gweithio mewn cartref plant ac yn rhan o brosiect eco-dwristiaeth mewn coedwig law yn Cambodia.

“Mi fydda’ i’n teithio efo’r criw ifanc sydd rhwng 17 a 18 oed yn ystod mis Awst a Medi, gan dreulio ychydig o wythnosau yn cynorthwyo cymunedau ac elusennau amrywiol yn ardal Mbale, Uganda,” meddai Arwel Phillips.

‘‘Roedd y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect yma yn rhy dda i’w golli.  Bydd y profiadau fydd y bobol ifanc yn eu hennill yn brofiadau fydd gyda nhw am oes. Mi fydd hi’n fraint cael arwain y tîm i gynorthwyo cymunedau a phrosiectau amrywiol.

‘‘Mae’r sialens sy’n wynebu’r criw yn un fythgofiadwy, ac mi fydd hi yn eu profi nhw i’r eithaf,” meddai.

Fe fydd y gyfres i’w gweld ar S4C yn ystod mis Hydref eleni, ac fe fydd modd dilyn eu taith hefyd yn ystod mis Awst ar wefan www.s4c.co.uk/newidbyd