Steffan Jones - o'r Gemau i gap
Fe fydd yr Urdd yn cynnal “Eisteddfod Chwaraeon” y mis nesa’.

Mae’r mudiad yn disgwyl croesawu 1,500 o gystadleuwyr i bentre’ athletwyr ar gyfer Gwyl Chwaraeon a gynhelir ym Mhrifysgol Morgannwg dros dridiau Gorffennaf 1-15 eleni. Dyma’r ail dro iddyn nhw gynnal yr wyl sy’n ceisio hybu gweithgareddau chwaraeon trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.

“Ni’n trio sefydlu pethe lle mae pobol ifanc yn cael blas o’r hyn sy’n digwydd yn rhyngwladol,” meddai Efa Gruffydd Jones, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru.

“Fe fydd gyda ni Seremoni Agoriadol, fe fydd y rheiny sy’n cymryd rhan i gyd yn aros mewn Pentref Athletwyr, a byddin o ffisiotherapyddion. Fe fydd athletwyr o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan, ac fe fydd athletwyr anabl hefyd.”

Steffan wedi’i sbotio

Flwyddyn yn ôl, roedd Steffan Jones o’r Bontfaen ym Mro Morgannwg yn ddisgybl 18 oed a oedd newydd orffen ei arholiadau Lefel A ac yn edrych ymlaen at ei wyliau haf.

Roedd hynny cyn i sgowt talent ei weld yn chwarae yng ngwyl Gemau Cymru yr Urdd 2011, ac fe gafodd gynnig ymuno â charfan 7-bob-ochr Cymru.

Y penwythnos canlynol, roedd yn hedfan i Bucharest gyda’r sgwad, ac fe enillodd ei gap cynta’ dros Gymru yng Nghyfres IRB y Byd yn Wellington, Seland Newydd ym mis Chwefror eleni.

“Mae’r gystadleuaeth yn gyfle gwych i athletwyr ifanc gystadlu mewn cystadleuaeth sydd mor debyg i’r rhai mawr fel y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad,” meddai Steffan.

“Dyma, i mi, yw’r ffordd orau i wella – drwy ymarfer a chystadlu fel athletwyr proffesiynol, a chystadlu yn erbyn y goreuon yn y wlad.”