Eliffant myfyrwyr Caerfyrddin
Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn noddi’r Fedal Ddrama brynhawn heddiw – ond draw ar stondin yr hen Goleg y Drindod ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri, mae yna greadur arall dramatig iawn.

Drwy’r wythnos hon, mae’r coleg yn arddangos model o eliffant enwog Tregaron, wedi ei greu gan fyfyrwyr y cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr.

Y llynedd, fe fu archeolegwyr yn tyllu a chloddio am olion chwedl leol sy’n mynnu fod eliffant syrcas wedi marw tra ar ymweliad â Thregaron, cyn cael ei gladdu ar dir Gwesty’r Talbot yn y dre’.

Ar gefn hynny, roedd myfyrwyr Ysgol y Celfyddydau Perfformio wedi creu sioe wedi’i seilio ar yr hanes.