Nic Parry, Cadeirydd Gweithgor Eisteddfod yr Urdd 2022
Mae eisteddfodwyr sy’n dod i faes Glynllifon yr wythnos hon yn cael deg eiliad i nodi’r pethau yr hoffen nhw ei weld yn newid yn Eisteddfod yr Urdd erbyn 2022.

Mae Cadeirydd y Gweithgor sydd wedi ei sefydlu i ystyried newidiadau i’r brifwyl ieuenctid erbyn y bydd yr Urdd yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed mewn degawd, wedi dechrau cynnal ymchwiliad.

Mae aelodau o staff cwmni ymchwil Beaufort yn crwydro’r Maes yn gofyn barn pobol; fe all pobol eraill gamu i fwth ar y Maes ac eistedd i lawr o flaen camera sy’n eu ffilmio am ddeg eiliad yn dweud eu barn. Ac ar ben hynny, fe fydd cyfle wedi’r eisteddfod i bobol eraill sydd â diddordeb yn yr wyl i roi eu barn hwythau.

“Edrych ar yr eisteddfod yden ni, nid ar y mudiad,” meddai’r Barnwr Nic Parry y bore yma. “Be’ sy’n wahanol am yr Urdd yn 90 oed i pan oedd o’n 70 neu’n 80 oed? Wel, ryden ni wedi penderfynu defnyddio’r pen-blwydd hwn i edrych ymlaen at y pen-blwydd mawr nesa’…

“Mae’r adolygiad yn cynnwys pobol sydd ar Gyngor y mudiad, cystadleuwyr, beirniaid, hyfforddwyr, arbenigwyr y we, ac mi fyddwn ni’n holi be’ ydech chi eisie ei weld yn cael ei wneud yn wahanol?” meddai wedyn.

“Mi fuon ni’n meddwl am gael flotilla i lawr y Fenai…” meddai a’i dafod yn ei foch yn cyfeirio at ddathliadau’r Jiwbili ar yr afon Tafwys yn gynharach yr wythnos hon.