Pâr o glocsiau o waith Trefor Owen
Mae’r mudiad sy’n gofalu am draddodiadau gwerin Cymru, yn bwriadu sefydlu “llyfrgell glocsiau”, trwy gasglu hen barau o’r esgidiau gwadnau pren.

Heddiw yn Eisteddfod yr Urdd Eryri, roedd Trac yn lansio Clogell – prosiect i godi ymwybyddiaeth o ddawns y glocsen ac o’r grefft o wneud clocsiau.

Drwy gynnal “amnest clocsiau”, mae Trac eisiau creu casgliad cenedlaethol o glocsiau wedi’u hatgyweirio a fydd ar gael i’w llogi gan grwpiau ac unigolion sydd am gynnal gweithdai, prosiectau dawns a digwyddiadau.

“Yn ystod y blynyddoedd diwetha’, r’yn ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn y diddordeb yn nawns y glocsen draddodiadol yng Nghymru,” meddai Danny Milbride, Cyfarwyddwr Trac.

“Yn naturiol, gyda thwf yn y diddordeb yn y ddawns, r’yn ni wedi gweld cynnydd mawr yn y gofyn am glocsiau. Mae’n ymddangos yn hollol hurt fod yna focsus yn llawn clocsiau nad oes neb yn eu defnyddio, ac sy’n casglu llwch, ynghudd mewn cypyrddau, seleri ac atigau ledled y wlad.

“R’yn ni’n gofyn i bobol roi eu hen clocsiau i ni. Bydd y clocsiau hyn yn cael eu hatgyweirio a’u defnyddio unwaith eto i helpu dathlu un o hoff draddodiadau gwerin ein gwlad.”

Mae yna reswm arbennig tros ddewis Glynllifon fel y lle i lansio Clogell. Oddi yno y daw’r pren y mae’r gwneuthurwr clocsiau, Trefor Owen, yn ei ddefnyddio i wneud yr esgidiau yn ei weithdy yng Nghricieth.