Mei Mac a Dana Edwards
Meirion Macintyre Huws o Glynnog Fawr a Dana Edwards o Aberystwyth yw Swyddogion Datblygu newydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. 

Dechreuodd y ddau ar ei swyddi, y naill gyda chyfrifoldeb am eisteddfodau lleol y Gogledd a’r llall am eisteddfodau lleol y De ar Fehefin 2.

Mae’r ddau yn hen gyfarwydd â steddfota mewn un ffordd neu’i gilydd. 

Mae’r Prifardd Mei Mac yn wyneb cyfarwydd ledled Cymru yn dilyn cipio Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1993, fel aelod o dîm Y Tywysogion, Talwrn y Beirdd, Bardd Plant Cymru 2001-2, arweinydd aml i Sgwad Sgwennu ac fel bardd sydd a galw mawr amdano i arwain gweithdai mewn ysgolion.

Ym myd eisteddfodau lleol y mae diddordeb Dana. Un o’i hatgofion cynharaf yw bod ar lwyfan Eisteddfod Pencader, pentref yng ngogledd Sir Gâr lle’i magwyd hi. Ers hynny mae wedi cystadlu’n gyson fel aelod o amryw gorau a grwpiau llefaru. Yn ddiweddar bu’n gwneud ychydig o feirniadu mewn eisteddfodau bach gan gael y cyfle i brofi eisteddfodau o ogwydd go wahanol.

Cyfnod anodd

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gymdeithas Eisteddfodau Cymru fel y dywed y Cadeirydd, Megan Jones:

“Ar ôl cyfnod o fethu cyflogi swyddogion i hybu gwaith y gymdeithas rydym yn ofnadwy o falch o sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ein galluogi i roi mwy o gefnogaeth i eisteddfodau lleol.

“Mae’n gyfnod heriol – mae angen denu mwy o gystadleuwyr, mwy o gynulleidfaoedd a mwy o’r cyhoedd i weithio ar y pwyllgorau sy’n trefnu’r 120 o eisteddfodau bach a gynhelir drwy Gymru.  Ein gobaith hefyd yw gweld eisteddfodau newydd yn codi ac yn ffynnu.”