Judith Musker Turner
Cyn-enillydd y Fedal Gelf yn Eisteddfod yr Urdd ydi enillydd Ysgoloriaeth Gelf 2012 yn Eryri.

Ddwy flynedd yn ôl yr enillodd Judith Musker Turner, merch o Geredigion, y Fedal. Bellach, mae hi’n astudio Clasuron ym Mhrifysgol Caergrawnt, ond mae ei gwaith buddugol yn yr adran Celf, Chrefft, Dylunio a Thechnoleg wedi’i seilio ar ei hoffter mawr o ddinasoedd Yr Eidal.

Carnifal Fenis ydi thema’r gwaith sy’n cynnwys clogyn cain, masg operatig, ac addurn bron wedi’i weithio’n gain mewn gwlân.

“Wy wedi gwneud gwaith ar Rufain a Fflorens yn y gorffennol, a dyma fi’n canolbwyntio ar Fenis nawr,” meddai Judith wrth golwg360.

“Wy’n ystyried gwneud gyrfa ma’s o arlunio, neu weithio gyda dillad hanesyddol. Ond y peth pwysica’ yw mynegiant creadigol.

“Mae astudio yng Nghaergrawnt yn gyfle anhygoel, ac mae’r adnoddau academaidd sydd ar gael yno yn wych, ond mae’n anodd cael amser i barhau gyda gwaith creadigol.

“Wy’n cymryd pob cyfle i ddefnyddio fy sgiliau ymarferol, er enghraifft modelu mewn erthygl ffasiwn ar gyfer cylchgrawn y myfyrwyr; cyflwyno fy ngwaith mewn sioeau ffasiwn; a bod yn gynllunydd gwisg ar gyfer cynhyrchiad cymdeithas ddrama’r Queens’ BATS.”

Mae Judith yn bwriadu defnyddio’r Ysgoloriaeth i dalu am fwy o hyfforddiant a datblygu ei sgiliau technegol – fel teilwriaeth, torri patrymau, couture a gwneud staes – yng Ngholeg Ffasiwn Llundain.