Mae prif gyfansoddwr Eryri 2012 yn “teimlo’n fwy fel Cymro” ar ôl llwyddo i ennill y Fedal Gyfansoddi. Eleni oedd y trydydd tro i Aled Wyn Clark o Brestatyn anfon gwaith i’r gystadleuaeth.
Mae wedi treulio tair blynedd yn astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n dweud fod y darn gyfansoddodd o ar gyfer gwyl Eryri yn llawer gwell na’r cynta’ anfonodd o i mewn yn 2010.
“Pan dw i’n edrych yn ôl, dw i’n gweld fy llais i, fel cyfansoddwr, wedi newid cymaint,” meddai Aled. “Dydw i byth yn hollol hapus gyda dim byd ydw i’n ysgrifennu, ac ro’n i wrthi tan y funud ola’ yn newid pethau am y gwaith yma.”
Darn un symudiad i glarinet a thelyn ydi’r gwaith buddugol, yn adrodd stori syml iawn, meddai Aled. Roedd wedi dychmygu’r offern “mwya’ Cymreig” – sef y delyn – fel cymeriad bach sy’n mynd ar goll. Mae wedi ceisio troi’r digwyddiadau yn y stori yn synau cerddorol wedyn.
Yn ôl y beirniad, Gareth Glyn: “Mae’r darn hwn yn dangos gwybodaeth drylwyr o natur y ddau offeryn a’u technegau estynedig. Mae yma gydweithio effeithiol rhwng y ddau offeryn, a thriniaeth gelfydd o’r gwahanol nawsau sy’n cael eu creu…
“Mae’n amlwg fod y cyfansoddwr eisoes yn brofiadol yn y maes cyfansoddi, a cherddoriaeth yn gyffredinol, ac rydw i’n hyderus y caiff lwyddiant yn ei yrfa.”
Mae Aled yn bwriadu treulio’r flwyddyn nesa’ yn “chwilio am swydd” ac yn gwella ei sgiliau technegol, cyn meddwl gwneud cwrs ôl-radd ym Mangor neu Gaerdydd.