Ian Rees
Mae pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor wedi awgrymu y dylai’r Urdd ddychwelyd yno i gynnal eisteddfod y canfed pen-blwydd.

Wrth annerch y wasg ar ddechrau wythnos Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012, dywedodd Ian Rees y byddai  dod yn ôl i Glynllifon, un o safleoedd Coleg Meirion-Dwyfor, yn “cwblhau’r hatric” i’r coleg amaethyddol sydd bellach yn rhan o grwp o golegau addysg bellach Llandrillo-Menai.

“Rydyn ni, fel coleg, yn falch iawn o’n cysylltiad gyda’r Urdd,” meddai Ian Rees, “ac fe gafwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yma yn 1990.

“Ar nodyn personol, rwy’n ddyledus iawn i’r Urdd am y profiadau ges i, fel disgybl yn Ysgol Gymraeg Lôn Las, Abertawe; yn Ysgol Ystalyfera; ac yna yn Aelwyd Treforys.

“Falle, pan fydd gweithgor Eisteddfod yr Urdd yn meddwl am safle ar gyfer gwyl 2022, y flwyddyn pan fydd yr Urdd yn dathlu ei ben-blwydd oed, pa le gwell na dod yn ôl yma, a chael hatric i Glynllifon?”