Sara, Alaw ac Elan
Fe fydd tair chwaer o Bahrain yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Eryri eleni – ac os y byddan nhw’n cyrraedd y llwyfan, dyna’r tro cynta’ i neb lwyddo i wneud hynny trwy gamera Skype.

Mae Alaw Meleri Henderson a’i chwiorydd, Sara Fflur ac Elan Haf, yn dod yn wreiddiol o bentre’ Llandwrog, ond maen nhw bellach yn byw yn y Dwyrain Canol. Ond dydi hynny ddim wedi eu rhwystro nhw rhag dod trwy rownd sir yr Urdd, a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Mawrth.

“Yn 2008, roedd gyda ni chwech o gystadleuwyr yn dod o’r tu allan i Gymru,” meddai Aled Sion, “ond eleni, roedd tua 200 o gystadleuwyr yn yr eisteddfod sir a gynhaliwyd yng Nghapel Jewin yn ardal Barbican, Llundain.

“Roedd yna gantorion o golegau cerdd ym Manceinion, roedd yna gystadleuwyr eraill o Derby a Llundain a Birmingham,” meddai wedyn, “yn ogystal â’r tair chwaer o Bahrain.

“Yn 2008, fe gawson ni un ferch o Singapôr yn cystadlu, ac fe fyddai’n braf denu mwy o gystadleuwyr o’r tu allan i Gymru.”

Profiad Elan

Dyma’r ail dro i Elan Haf gystadlu yn eisteddfod yr Urdd, ond dyma’r tro gyntaf iddi ddod i’r Maes.

Tra’r oedd hi’n cystadlu ar gamera Skype gartref yn Bahrain, roedd ei mam, Delyth, wedi gorfod rhoi arwydd ar ddrws y tŷ yn dweud, ‘Do not disturb’ rhag ofn byddai ymwelwyr annisgwyl yn dod i mewn.

‘‘Roedd hi’n brofiad wahanol o gystadlu dros Skype, ond roeddwn yn llai nerfus o’i wneud!’’ meddai Elan. Mae hi a’i chwiorydd yn cystadlu ar gyfanswm o ddeg o gystadlaethau yr wythnos hon.