Cefin Roberts - arweinydd y Gymanfa, ond nid fo ddewisodd y tonau
Fe fydd Cymanfa Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 yn canu rhai tonau sydd wedi bod yn y siartiau gan gantorion fel The Animals, Dolly Parton a Westlife.

Yn rhaglen y Gymanfa sydd i’w chynnal yng Nghapel y Drindod, Pwllheli nos Sul nesa’, Mehefin 10, mae dwy dôn anghyfarwydd iawn i ddilynwyr cymanfaoedd traddodiadol. Ond, os ydyn nhw’n ddieithr fel tonau i emynau, maen nhw’n diwns adnabyddus a chanadwy.

Y gynta’ ydi ‘House of The Rising Sun’, alaw draddodiadol o’r Unol Daleithiau a ddaeth yn adnabyddus ledled y byd yn 1964 pan recordiwyd hi gan grwp The Animals. Arni, fe fydd cantorion y Gymanfa yn canu geiriau ‘Tydi sy deilwng oll o’m cân’, David Charles. Fel arfer, mae’r geiriau hynny’n cael eu canu ar donau Godre’r Coed, Crimond, Bishopthorpe, Milwaukee neu Penmachno.

Yr ail dôn annisgwyl ydi ‘The Rose’, cân bop sydd wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg ac sydd wedi ei recordio gan nifer fawr o artistiaid – un o’r fersiynau diweddara’ ydi un y boi-band o Iwerddon, Westlife. Fe fydd y cymanfawyr yn canu geiriau ‘Calon Lân’ ar y dôn hon.

Cefin Roberts ydi arweinydd y Gymanfa nos Sul, ond nid y fo sy’n gyfrifol am ddewis yr emynau – fe gafodd hynny ei wneud gan bwyllgor o bobol ifanc sy’n gweithio gyda ieuenctid yn ardal Eryri.