Bardd y Gadair 2011, sef Aled Evans, Llangynnwr, Caerfyrddin ac Enlli Eluned Lewis, enillydd Tlws yr Ifanc gyda David Thomas, Y Llew Coch, Llandyfaelog
Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 5ed gyda’r cystadlu yn frwd ac yn niferus trwy’r dydd.  Y beirniaid eleni oedd :- Cerdd –  Mrs. Pat Jones, Chwilog, Gwynedd; Llefaru a llên – Y Prifardd Mererid Hopwood, Caerfyrddin; Arlunio – Mrs Rosemary Jones, Idole.

Bu Mr. Geraint Rees, Idole yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol a Mr Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau agored.

Llywyddion yr eisteddfod eleni oedd Miss Anne Davies, Drefach, Llanelli yn y prynhawn a Mr. John Phillips, Fferm Y Cwm, Cwmffrwd yn yr hwyr.  Cafwyd anerchiadau a chyfraniadau gwerthfawr gan y ddau lywydd, y ddau ohonynt â chysylltiad agos iawn gyda bro yr eisteddfod.

Enillwyd Cadair yr eisteddfod gan Aled Evans, Penymorfa, Llangynnwr gyda cherdd gaeth ar y testun “Tân”.  Yr oedd hi’n gystadleuaeth safonol a niferus iawn o ran ymgeiswyr ac fe blesiwyd y beirniad yn fawr iawn.  Yr oedd y gadair hardd a luniwyd yn lleol yn rhoddedig gan David a Marjorie Thomas a’r cwmni, Y Llew Coch, Llandyfaelog.  Enillwyd Tlws yr ifanc gan Enlli Eluned Lewis, Croes y Ceiliog, Caerfyrddin.

Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Ellen Williams am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf.  Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees i Dafydd Hywel Evans (cerddoriaeth) ac i Enlli Eluned Lewis (llefaru) i’r cystadleuwyr gorau lleol o dan 16 oed.  Cyflwynwyd cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Y Fro.  Cyflwynwyd cwpan her er cof am John Jones am lwyfannu eitem gan fudiadau lleol i Gapel Penygraig.

Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod.  Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.

CERDD (lleol)

Unawd Bl. 1 a 2

1af Fflur Richards

2il Ifan Knott

3ydd Jac Thomas

Unawd Bl. 3 a 4

1af Ellen Williams

2il Bethan Rock

3ydd (cydradd) Lily Pickles ac Iwan Thomas

Unawd Bl. 5 a 6

1af Maja Pickles

2il Millie Butterfield

3ydd Luke Rees

Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd

1af Millie Butterfield

2il Iwan Thomas

3ydd (cydradd) Nia Thomas ac Iestyn Richards

Parti unsain dan 16

1af Parti 4, Ysgol Y Fro

2il Parti 3, Ysgol Y Fro

3ydd Parti 1, Ysgol Y Fro

Unawd Offeryn Cerdd 11 – 16

1af Enlli Eluned Lewis

2il Caryl Jones

3ydd Lora Phillips

Parti Recorder

1af Grŵp B, Ysgol Y Fro

2il Grŵp A, Ysgol Y Fro

3ydd


Unawd 11 – 16

1af Enlli Eluned Lewis

2il Delyth Davies

3ydd Dafydd Hywel Evans

LLEFARU (lleol)

Llefaru Bl. 1 a 2

1af Ifan Knott

2il Fflur Richards

3ydd Jac Thomas

Llefaru Bl. 3 a 4

1af Iestyn Richards

2il Iwan Thomas

3ydd


Llefaru Bl. 5 a 6

1af Maja Pickles

2il (cydradd) Nia Thomas a Millie Butterfield

3ydd


Llefaru 11 – 16

1af Enlli Eluned Lewis

2il Osian Knott

3ydd


ARLUNIO (lleol)

Blwyddyn 1 a 2

1af Jac Thomas

2il Oliver North Mullis

3ydd Erin Vaughan

Blwyddyn 3 a 4

1af Joseph Prosser

2il Hannah Thomas

3ydd Sarah Thomas

Blwyddyn 5 a 6

1af Steffan Jones

2il (cydradd) Chloe Solloway a Rhys Thomas

3ydd Nia Thomas

Llawysgrifen Blwyddyn 7 – 11

1af Lora Phillips

CERDD (agored)

Unawd dan 7

1af Ifan Knott

Unawd 7 – 11

1af Sara Louise Davies

Unawd 11 – 14

1af Mared Owen

Unawd 14 – 17

1af Dafydd Hywel Evans

Unawd Alaw Werin dan 17

1af Gwenllian Phillips

Deuawd dan 17

1af Manon James ac Enlli Eluned Lewis

Unawd offerynnol dan 17

Unawd Sioe Gerdd dan 30

1af Delyth Davies

Emyn  dan 50

1af Cathryn Davies

Emyn dros 50

1af Mansel Glassbrook

Deuawd agored

1af John Davies a Jennifer Parry

Cenwch i’m yr Hen Ganiadau

1af Jennifer Parry

Her Unawd dros 17

1af John Davies

Parti neu gôr

1af “Only Mynydd Aloud”, Mynydd-y-Garreg

LLEFARU (agored)

Llefaru 7 – 11

1af Sara Evans

Llefaru 7 – 11

1af Sarah Louise Davies

Llefaru 14 – 17

1af Meleri Morgan

Darllen Darn o’r Ysgrythur, dros 17

1af Gwladys Davies

Her adroddiad dan 30

1af Lousie Harding

Adroddiad/llefaru digri

1af Meleri Morgan

Her Adroddiad

1af Louise Harding

LLENYDDIAETH

Y Gadair

1af Aled Evans, Llangynnwr, Caerfyrddin

Tlws yr Ifanc

1af Enlli Eluned Lewis, Croes y ceiliog, Caerfyrddin

Englyn

1af . Aled Evans, Caerfyrddin

Gorffen Limrig

1af Hannah M. Roberts, Llandâf, Caerdydd

Ysgrif ysgolion cynradd lleol

1af Nia Thomas, Ysgol Llangynnwr

Erthygl (Blynyddoedd 7 – 9)

1af Elin Wyn James, Caerfyrddin

Darn o waith creadigol (Blynyddoedd 10 – 11 uwchradd)

1af Niamh Elain, Caerfyrddin

2il Lora Phillips, Ysgol Sul Penygraig

3ydd Lora Phillips, Ysgol Sul Penygraig