Mae enwau nifer o enillwyr cystadlaethau celf Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd wedi’u cyhoeddi.

Nerea Martinez de Lecea, artist o Dreorci, ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, a hynny am greu delweddau digidol.

Roedd y beirniaid – Karen MacKinnon, Ingrid Murphy a Marc yn unfrydol wrth ddyfarnu’r wobr ariannol o £5,000 iddi.

Dywedodd Karen MacKinnon ei bod hi a’i chyd-feirniaid wedi’u “gwefreiddio” gan waith yr enillydd, sef cyfres o ‘baentiadau’ ar ffurf Photoshop, a bod y gwaith yn “[g]yflawniad dawnus” â “c[h]ynnwys rhyfeddol”.

Ychwanegodd fod y gwaith yn “codi cwestiynau am hunaniaeth, dilysrwydd a tharfu”.

Cafodd ei gweithiau blaenorol eu harddangos yn y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn 2012 ac ym Maldwyn yn 2015, a hithau wedi dod i’r brig yn yr adran Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Blaenau Gwent yn 2010.

Crefft a dylunio

Zoe Preece, artist cerameg sy’n gweithio â phorslen a phren, yw enillydd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio.

Unwaith eto, roedd y beirniaid yn unfrydol fod yr artist o Benarth yn deilwng o ennill y gystadleuaeth a’r wobr o £5,000.

Yn y gorffennol, mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn Arddangosfa Agored Wrecsam (2011), Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr (2014) ac Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn (2015).

Dywedodd Karen MacKinnon fod ei gwaith “fel petai gofod domestig bob dydd y gegin wedi dod yn lledrithiol”, gan gynnwys llwy yn crogi yn yr aer, yn llawn i’r ymylon, cwpanau wedi’u llwytho’n sigledig yn barod i gwympo a malu’n deilchion, a chytleri a chyllell yn rhan o’r bwrdd pren.

Dywedodd fod “rhywbeth annaearol” am y sefyllfa y gwnaeth hi ei chreu “yn goeth”.

Mae hi hefyd yn ennill Gwobr Bwrcasu Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru.

Ysgoloriaeth i Artist Ifanc

Mae Gweni Llwyd, 23 oed o Ddyffryn Nantlle, wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfod a gwobr ariannol o £1,500 am gyfres o ffilmiau byrion yn dwyn y teitlau ‘Gro Chwipio’, ‘O.S.B.’, ‘Llwch’ ac ‘Artecs’.

Bydd yr ysgoloriaeth yn ei galluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf, neu fynychu dosbarthiadau meistr.

Dywedodd un o’r beirniaid, Karen MacKinnon fod Gweni Llwyd yn “artist ifanc heriol sy’n adnabod byd heddiw i’r dim”.

Dywedodd fod ei delweddau’n “ymddangosiadol ddigyswllt a naratifau o’n hoes ddigidol”.

Mae’r artist bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac yn bwriadu dilyn cwrs delweddau symudol. Bydd ei gwaith buddugol yn cael ei arddangos yn y Lle Celf eleni ynghyd â’r enillwyr eraill, ac mae hi wedi derbyn gwahoddiad i’w arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy y flwyddyn nesaf.

Graddiodd hi mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Fetropolitan Caerdydd y llynedd, gan symud ymlaen i ennill gwobr Artist Ifanc NOVA yn ddiweddarach.

Mae ei hysgoloriaeth wedi’i rhoi er cof am Aneirin a Mari Talfan Davies gan Elinor a Geraint.

Dywedodd yr artist buddugol, “Rwy’n cael fy symbylu gan atgofion ac yn chwilio archifau agored er mwyn casglu delweddau, clipiau fideo, sain a GIFs i’w defnyddio gyda gwaith fideo, ffotograffau a sain fy hun.

“Wrth ymdrin â chynhyrchu fideo fel gludwaith, rwy’n ceisio dosbarthu a churadu arteffactau digidol er mwyn creu naratifau haniaethol.”