Eisteddfod Gadeiriol Tregaron

Ar nos Wener 10fed o Fedi, yn y Neuadd Goffa, cynhaliwyd cystadlaethau lleol yr Eisteddfod. Y beirniad oedd Dafydd Jones, Tyngraig (cerdd) a Catrin Mai Davies, Tal-y-bont (adrodd a llenyddiaeth). Croesawyd y ddau i’r eisteddfod gan gadeirydd y pwyllgor Glyn Lewis.

Roedd yn hyfryd croesawi nôl dau wyneb cyfarwydd gan i’r ddau fwrw eu prentisiaeth fel perfformwyr ar y llwyfan yma.

Gan fod y cystadlu cyfyngedig i blant Ysgol Gynradd Tregaron, roeddem yn ddyledus iawn i John Jones, y prifathro, a’u gyd-athrawon am eu gwaith o ddysgu a hyfforddi’r plant mor drwyadl. Roedd yn hyfryd gweld cynifer o rieni a ffrindiau yn cefnogi’r plant y noson honno. Cyfeiliwyd gan Carys Ann Davies, ac addurnwyd y llwyfan gan Jane Hughes. Mae’n sicr fydd y profiad o’r llwyfan yn profi’n werthfawr i’r plant yn y dyfodol. Cyflwynwyd y gwobrau gan Myfanwy Bulman Rees, Brenhines Carnifal Tregaron.

Y diwrnod canlynol, cynhaliwyd y cystadlaethau agored. Roeddem yn ffodus iawn i gael dau feirniad profiadol iawn yn ei meysydd, sef Buddug Verona James, Aberteifi a’r Parchedig John Gwilym Jones, Peniel. Y cyfeilyddion oedd Endaf Morgan a Gareth Wyn Thomas.

Llywydd y dydd oedd Eleri Davies, Aberdauddwr, Llanddewibrefi, oedd yn wreiddiol o fferm Penybont, Tregaron. Cafwyd araith ddiddorol a pherthnasol ganddi, ynghyd a’i atgofion pan fu hithau’n troedio a chystadlu yn yr eisteddfodau. Diolchodd y cadeirydd iddi am ei chefnogaeth flynyddol i’r eisteddfod.

O dan ofal Eirwen James, cynhaliwyd seremoni cadeirio urddasol iawn. Roedd y beirniad, Parch John Gwilym Jones, yn hynod o bles gyda’r safon uchel a dderbyniwyd yn yr un ar bymtheg o gerddi a ddaeth gerbron y gystadleuaeth yma. Ar ganiad y corn gwlad, a seiniwyd gan John Jenkins, Ysgol Uwchradd Tregaron, cododd ‘Arwyn’ ar ei draed, i gymeradwyaeth y gynulleidfa. Fe’i cyrchwyd i’r llwyfan gan Catrin Medi Pugh ac Owain Pugh. Datgelwyd mai ‘Arwyn’ oedd Anwen Pierce, Bow Street, ac roedd y beirniad yn llawn canmoliaeth i’r cerddi buddugol.

Fe’i cyfarchwyd ar lafar gan dri o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron, sef Meirian Morgan, Eilir Pryse a Lewis Evans. Eilir Pryse hefyd canodd cân y cadeirio.

Yn ymuno gydag aelodau pwyllgor yr Eisteddfod ar y llwyfan yn ystod y seremoni oedd y Cynghorydd Mrs Haydn Lewis, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Cynghorydd Evan Jones, Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron. Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Elin Jones A.C. a Mark Williams A.S.

Diolch i bawb a gyfrannodd at eisteddfod lwyddiannus eleni eto.

Dyma restr o fuddugwyr eisteddfod 2010!

 

Cystadlaethau cyfyngedig i blant Ysgol Gynradd Tregaron

Cystadleuaeth  1af 2il 3ydd
Unawd dosbarth derbyn a meithrin Zara Evans Hazel Pitts Wil Hockenhull
Adnodd dosbarth derbyn a meithrin Zara Evans Catrin Lloyd Wil Hockenhull a Gwenno Dark (cydradd)
Unawd blwyddyn1 a 2 Erin Jones Gracie George Sioned Bulman
Adnodd blwyddyn 1 a 2 Jac Hockenhull Erin Jones  
Unawd  blwyddyn 3 a 4 Elain Jones Hana Wilson Tomos Jones a Ceri Pateman (cydradd)
Adrodd blwyddyn 3 a 4 Hana Wilson Tomos Jones Ceri Pitman a Siwan Richards (cydradd)
Unawd blwyddyn 5 a 6 Hana James Catrin Davies Iestyn Richards
Adrodd blwyddyn 5 a 6 Hana James Catrin Davies  
I ddisgyblion dan naw oed: Ysgrif ‘Yr Oedfa’ Tomos Jones Ceri Pateman ac Angharad Evans (cydradd) Elain Jones a Siwan Richards (cydradd)

 

Cyflwynwyd cwpan her barhaol Cyril Evans am yr unawdydd fwyaf addawol i Catrin Davies.

Cyflwynwyd cwpan her parhaol Mair Lloyd-Davies am yr adroddwr fwyaf addawol i Hana Wilson.

Cystadlaethau agored

Cystadleuaeth  1af 2il 3ydd
Unawd dan 6 oed Glesni Morris, Llanddeiniol Zara Evans, Tregaron Miriam Davies, Tal-y-Bont
Adrodd dan 6 oed Glesni Morris, Llanddeiniol Zara Evans,Tregaron Miriam Davies,Tal- y- Bont
Unawd 6-9 oed Siwan Aur Jones, Lledrod Nia Beca Jones, Llanwnnen Enfys Lynwen Morris, Llanddeiniol
Adrodd 6-9 oed Elan Evans, Felinfach Enfys Lynwen Morris,Llanddeiniol Sara Elan Jones,Cwmann
Unawd 9-12 oed Anest Eurig, Aberystwyth Ffion Williams,Lledrod  
Adrodd 9-12 oed Nest Jenkins,Lledrod Anest Eurig, Aberystwyth Ffion Williams,Lledrod
Unawd 12-15 oed Rhys Philips, Hwlffordd Catrin Mai,Lledrod  
Adrodd 12-15 oed Catrin Mai,Lledrod    
Unawd 15-18 oed Elgan Evans, Tregaron Ellen Thomas, Eisteddfa Gurig Ceris James,Castell Newydd Emlyn
Adrodd 15-18 oed Eilir Pryse,Aberystwyth    
Unawd cerdd dant dan 18 oed Annest Eurig, Aberystwyth Gwawr Hatcher, Gorsgoch Nest Jenkins,Lledrod
Unawd unrhyw offeryn cerdd dan 18 oed Nest Jenkins, Lledrod a Huw Evans, Llanddeiniol (cydradd)   Meleri Pryse, Aberystwyth
Canu emyn dan 18 oed-Cwpan Her Barhaol

Glenys Slaymaker

Elgan Evans,Tregaron Gwawr Hatcher,Gorscoch Eilir Pryse,Aberystwyth
Cân bop neu gân o sioe gerdd Caryl Haf Davies,Llanddewi Brefi Ellen Thomas, Eisteddfa Gurig Ceris James, Bryngwyn
Adrodd digri agored Sam Jones,Tregaron Rhodri Pugh,Llangybi Mair Jones, Tregaron ac Eilir Price, Aberystwyth (cydradd)
Canu emyndros 60 oed-Cwpan Her Barhaol

Banc Barclays, Tregaron

Elen Davies,Llanfair Caereinion Vernon Matter, Saron Gwynfor Harries, Blaenannerch
Cystadleuaeth Monolog Catrin Medi Pugh, Tregaron Eilir Pryse, Aberystwyth  
Ymgom agored Sam ac Ifan Jones, Tregaron    
Her adroddiad 18-30 oed Carwyn Evans, Llanddeiniol Sam Jones, Tregaron  
Her unawd 18-30 oed Rhodri Evans, Bow Street Caryl Haf Davies,Llanddewibrefi  
Darllen darn o’r ysgrythur o’r Beibl Newydd i’w osod ar y pryd Eilir Price, Aberystwyth Carwyn Evans, Llanddeiniol  
Canu emyn 18-60 oed-Cwpan Her Barhaol John Davies, Llwyngaru, Tregaron Rhodri Evans, Bow Street Caryl Haf Davies, Llanddewibrefi  
Her Unawd Agored: Cwpan Her Barhaol Teulu Brynteifi Pont Llanio Gwyn Morris,Aberteifi Efan Williams, Lledrod Robert Jenkins, Aberteifi
Her Adroddiad Agored:Cwpan Her BarhaolCassie Davies Joy Parry, Cwmgwili Catrin Medi Pugh,Tregaron Gwladys Davies,Garnant
Cenwch i’m yr hen ganiadau:Cwpan Her Barhaol Muriel Lloyd Robert Jenkins, Aberteifi Jennifer Parry,Aberhonddu Efan Williams, Lledrod

 

Llenyddiaeth

Cystadleuaeth  1af 2il 3ydd
Cystadleuaeth y Gadair  Anwen Pierce, Bow Street, Aberystwyth     
Englyn- ‘Trydan’ D Emrys Williams, Llangernyw, Abergele J.B. Phillips, Caerfyrddin  
Dau bennill yn hysbysebu Cymanfa Ganu ac Eisteddfod D Emrys Williams, Llangernyw, Abergele Mary B. Morgan, Llanrhystud  
Ysgrif- ‘Pori’ John Meurig Edwards, Aberhonddu Carys Briddon, Tre’r Ddôl, Machynlleth  
Soned- ‘Y Gors’ John Meurig Edwards, Aberhonddu    
Sgwrs fer rhwng athro ysgol a rhiant John Meurig Edwards, Aberhonddu    
Brawddeg: ‘Ystrad Caron’ Eluned Davies, Penygroes, Crymych Mary B. Morgan, Llanrhystud aEluned Edwards,Yr Wyddgrug

(cydradd)

 
Limrig B. Phillips, Ffostrasol a T.G. Jones, Penuwch a John Meurig Edwards, Aberhonddu (cydradd 1af)    
Deg rheol aur i feirniad mewn eisteddfod John Meurig Edwards, Aberhonddu aT.G Jones, Penuwch, (cydradd 1af)    
Cyfansoddi geiriau ar gyfer hwiangerdd Valmai Williams, Aberdesach, Caernarfon Dilys Backer Jones, Bow Street.