Y ciw am fws gwennol ym Mona (Llun: golwg360)
Dim ond llwyddo i gyrraedd Maes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern wnaeth Ceidwad y Cledd heddiw – a hynny oherwydd ciwiau mawr yn y maes parcio dros dro ar faes Sioe Mona.

Roedd Robin McBryde yn dal ar y bws i’r Maes am 10.30yb, gyda’r seremoni i urddo aelodau newydd Gorsedd y Beirdd i fod i ddechrau yn y cylch am 11yb.

Er hynny, fe lwyddodd Robin o Fon i wisgo yn ei goban hufen a’i gwneud hi mewn pryd, gan gario’r cleddyf heddwch yn ei wain i agor yr Orsedd yn swyddogol.

Roedd hefyd yn gwarchod y fynedfa i’r cylch wrth i’r aelodau newydd fynd i mewn ac allan.