Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yw Llywydd y Dydd heddiw ar faes prifwyl yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd ei fod yn credu bod cael yr Eisteddfod yn yr ardal wedi cael effaith ar ddefnydd pobol ifanc o’r Gymraeg.

Mae Prif Weinidog Cymru yn byw yn ardal yr Eisteddfod eleni a dywed ei fod yn cofio’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ar yr un maes ym Mhencoed yn 1998.

“Fi’n cofio yn ’98, mi wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol newid agwedd pobol ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal ac mae’r un peth yn digwydd nawr,” meddai.

“Yn enwedig pobol ifanc, yn yr ardal hon dyw’r iaith ddim yn iaith gymunedol  fan hyn, mae’r rhan fwyaf o’r plant sydd yn yr ysgolion Cymraeg ddim yn dod o unrhyw fath o gefndir Cymraeg.

“Mae’n hollbwysig i ni felly i weld bywoliaeth yr iaith y tu fas i’r dosbarth a gweld pa fath o weithgareddau sydd ar gael, y ffordd mae’r iaith yn cael ei defnyddio.

“Mae hwnna’n meddwl y bydd mwy o hyder ganddyn nhw i ddefnyddio’r iaith y tu fas i’r maes traddodiadol ac iddyn nhw, yr ysgol yw hwnna.”