Aeth hanes y côr yn angof yng nghysgod stori'r Gadair Ddu (llun: Golwg360)
Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol goffáu Hedd Wyn a’r Rhyfel Byd Cyntaf y flwyddyn nesaf, mae’r trefnwyr wedi lansio apêl i chwilio am deuluoedd aelodau o gôr a fu’n cystadlu dros ganrif yn ôl.

Roedd Côr 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig wedi ennill yr ail wobr yng nghystadleuaeth y corau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1915.  Ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Eisteddfod Penbedw, 1917, mae’n ymddangos mai’r arweinydd, yr Is-gorporal Samuel Evans o Rhosllannerchrugog, oedd yr unig un a oedd yn dal yn fyw.

Yn fuan ar ôl yr Eisteddfod ym Mangor, gadawodd yr 17eg Bataliwn Gymru a glanio yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915, lle credir bod pob un o’r 25 o’r bechgyn a’r dynion ifanc yn y côr wedu eu lladd.

Yn Eisteddfod Penbedw, cafwyd seremoni arbennig i anrhydeddu’r Is-gorporal Samuel Evans, a oedd wedi’i glwyfo.

Er i’r stori gael sylw yn y wasg ar y pryd, aeth yn angof yng nghysgod stori Hedd Wyn, bardd y Gadair, gan i seremoni’r Gadair Ddu ddigwydd oriau’n unig ar ôl i’r Eisteddfod anrhydeddu’r Is-gorporal.

Ganrif yn ddiweddarach, mae’r Eisteddfod yn awyddus i glywed gan deuluoedd a disgynyddion Côr Meibion yr 17eg Bataliwn.  Byddai amryw o’r dynion wedi’u recriwtio yn ardal Blaenau Ffestiniog, Wrecsam a Llandudno, ac rydym yn hyderus bod gan nifer ohonynt deuluoedd sy’n dal i fyw yn lleol ar draws gogledd Cymru.

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y côr gysylltu gyda Gwenllïan Carr drwy ffonio 0845 4090 400, e-bostio gwenllian@eisteddfod.org.uk neu drwy lenwi’r ffurflen wybodaeth ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru/cor-1915.  Y bwriad yw cyhoeddi mwy am y côr a chasglu enwau’r aelodau er mwyn iddyn nhw gael eu cofio yn yr Eisteddfod ym Môn o 4-12 Awst.