Fydd y rheiny sy’n codi arian at gynnal Eisteddfod Genedlaethol ym Môn y flwyddyn nesa’ ddim yn cael targed newydd, er eu bod eisoes wedi cyrraedd eu nod o £300,000, gydag wyth mis i fynd.

Yn ystod cyfarfod o Gyngor y brifwyl yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, fe nododd y Prif Weithredwr, Elfed Roberts, mai dibwrpas fyddai pennu targed arall, uwch, a phobol yr ynys wedi gweithio mor galed dros y flwyddyn a hanner ddiwetha’.

“Unwaith mae rhywun yn gosod nod i bwyllgor apêl, mae’n ddoeth sticio at y nod honno,” meddai Elfed Roberts.

“Ac mae’n rhaid cofio, wrth gwrs, mai llai na degfed rhan o holl gostau’r Eisteddfod ydi faint sy’n cael ei godi’n lleol,” meddai wedyn, “felly mae hi’r un mor bwysig i ni gyrraedd y nod o ran stondinau, gwerthu tocynnau, nawdd, carafanau… mae angen ticio’r bocsys yna i gyd er mwyn sicrhau y medrwn ni gynnal yr eisteddfod.

“A dim ond ar ôl i ni wneud hynny, ac ar ôl i ni gynnal wythnos o ddigwyddiadau, y medrwn ni fforddio eistedd yn ôl a llongyfarch ein hunain.”