Y ciw ym Maes B ddydd Mercher
Doedd prif berfformiwr Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol neithiwr ddim ar gael i berfformio yn dilyn ‘amgylchiadau annisgwyl personol’.

Roedd disgwyl i Yws Gwynedd a’i fand berfformio’n fyw i gynulleidfa ifanc Maes B ym Mhrifwyl y Fenni, ond bu’n rhaid iddo ganslo ei berfformiad ar y munud olaf.

Fe wnaeth cyfrif rhaglen gerddoriaeth Ochr 1 drydar neges ar Twitter neithiwr yn dweud na fydd  ar gael ‘oherwydd amgylchiadau annisgwyl’.

“Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, doedd Yws Gwynedd ddim yn perfformio heno. Dewch nôl am 9.30 nos fory am ragor o Faes B #maesByw,” meddai’r neges.

Fe ddywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol wrth golwg360 y bore ‘ma, mai “amgylchiadau personol” oedd y rheswm pam nad oedd yn gallu bod yno.

Nos Fercher Maes B

Nos Fercher oedd noson agoriadol Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy, gyda bandiau eraill Argrph, Yr Eira ac Ysgol Sul yn chwarae.

DJ’s Elan a Mari wnaeth gloi’r noson, gyda chyfres o ganeuon Yws Gwynedd i ddiddanu’r dorf.