Ymwelwyr ar faes Eisteddfod yr Urdd

Bydd llawer ohonoch chi eisoes wedi gweld a chlywed rhywfaint o’r canu, llefaru, actio a dawnsio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn Fflint ye wythnos hon.

Ond mae ‘na fwy i’r ŵyl ieuenctid na beth welwch chi o’r cystadlu ar y llwyfan wrth gwrs – ac mae golwg360 wedi bod am dro o gwmpas rhai o stondinau’r maes i weld beth sydd ganddyn nhw i’w cynnig.

O grysau-t i gefnogi Cymru yn Ewro 2016, gwybodaeth am y Cynulliad, hanes yn stondin y Llyfrgell Genedlaethol, neu gyfle i brynu gwaith crefft arbennig ac unigryw, mae digon i’w gael yn Sir y Fflint eleni!

Mared Ifan fu’n busnesu: