Mae angen ystyried rhoi mwy o bwyslais ar ddysgu Cymraeg i blant bach iawn,  yn ôl un o brif swyddogion Comisiynydd y Gymraeg.

Gan fod ffigurau’n dangos bod mwy o blant sy’n dysgu’r iaith yn y cartref yn datblygu’n siaradwyr rhugl, roedd angen meddwl am ddatblygu addysg Gymraeg cyn oed ysgol, meddai Huw Gapper, yr Uwch-swyddog Polisi ac Ymchwil.

Roedd yn siarad ar ddiwedd cyflwyniad gan swyddfa’r Comisiynydd a Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd hwnnw’n dadansoddi rhai o’r ffigurau iaith o Arolwg Cenedlaethol Cymru a’r rheiny’n awgrymu fod dysgu’n gynnar yn y cartref yn fwy effeithiol na dysgu’n ddiweddarach mewn ysgolion o ran creu siaradwyr rhugl.

Mae hefyd yn dangos bod canran y bobol sydd wedi dysgu’r iaith yn y cartre’ yn is ymhlith pobol iau – o 82% ymhlith pobol tros 65 i 21% ymhlith plant rhwng 2013 a 2014.