Iolo Williams
Mae ymddiriedolaeth Coed Cadw a’r naturiaethwr Iolo Williams yn bwriadu prynu darn o wastatir ‘coedwig law Geltaidd’ er mwyn diogelu coetir hynafol ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Gyda’i gilydd, maen nhw’n gobeithio prynu Llennyrch, sef darn o dir 450 erw yn Llandecwyn.

Mae’r safle’n cael ei ddisgrifio fel ‘coedwig law Geltaidd’, lle mae afon fynyddig yn rhedeg trwy borth coediog, ac mae rhaeadrau’n creu amodau cynnes ar gyfer mwsogl a llysiau’r iau.

Mae’r safle hefyd yn gartref i 200 o wahanol fathau o gen sy’n tyfu ar goed, ac mae’n rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig Coedwigoedd Derw Meirionnydd.

Nod y prosiect gwerth £1.5 miliwn yw diogelu a hybu bywyd gwyllt drwy dyfu coetiroedd.

Mae angen £750,000 ar yr ymddiriedolaeth i brynu’r safle.

‘Hudolus’

Dywedodd prif weithredwr Coed Cadw, Beccy Speight: “Mae Llennyrch yn le hudolus, lle mae coetir cynoesol yn sefyll ar lannau Afon Prysor oer iach, garegog.”

Ychwanegodd Iolo Williams: “Dw i wrth fy modd fod Coed Cadw yn ceisio prynu Llennyrch. Mae ei leoliad gorllewinol a’i uchder yn ei wneud, yn llythrennol, yn goedwig law, ac mae’n un y mae angen gofal arbenigol arni.

“Dw i hefyd wrth fy modd fod yr ymddiriedolaeth yn bwriadu gwneud defnydd o’r safle fel prosiect arddangosfaol i ddangos y manteision ymarferol niferus sydd gan goed cynhennid, yn y lle iawn, i’r ffermwr.”

Mae’r apêl eisoes wedi derbyn £50,000 gan Gyfoeth Naturiol Cymru.