Mae Cymdeithas yr Iaith wedi meddiannu stondin Cyngor Sir Dinbych ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd Cymdeithas wedi meddiannu’r stondin i brotestio yn erbyn Awdurdod Lleol Dinbych sydd wedi clustnodi tir ar gyfer adeiladu chwe mil o dai newydd, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf cymunedau fel Dinbych, Rhuddlan a Bodelwyddan.

Roedd y brotest yn un heddychlon er i Gymdeithas yr Iaith roi posteri ar waliau’r stondin.

Dywed Cymdeithas yr Iaith fod y sefyllfa yn y sir yn enghraifft o fethiant y gyfundrefn gynllunio yng Nghymru.

Roedd cyn cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Menna Machraeth, a’r ymgyrchydd iaith Toni Schiavone yn siarad yn y digwyddiad.

Effaith penderfyniadau cynllunio

Dywedodd Toni Schiavone bod angen rhoi ystyriaeth ar effaith penderfyniadau cynllunio yng nghanol penderfyniadau cynllunio awdurdodau lleol.

“Rydyn ni wedi cael llawer iawn o siarad a dadansoddi wedi’r Cyfrifiad – ond mae’n hen bryd i ni weld gweithredu,” meddai Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. “Fel arall, bydd yr holl siarad, a’r gynhadledd fawr, wedi bod yn wastraff amser.

“Yn y maes tai a chynllunio, rydyn ni wedi bod yn glir gyda Carwyn Jones: nid nawr yw’r amser am newidiadau bychain i’r system gynllunio. Am lawer rhy hir, mae ein cymunedau a’n pobl – boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio – wedi dioddef effeithiau negyddol y farchnad rydd.”

“Mae’r Gymdeithas wedi cyflwyno cynigion polisi cynhwysfawr i’r Prif Weinidog er mwyn sicrhau bod pobl yn cael byw yn Gymraeg. Os nad yw’r Llywodraeth yn dechrau cymryd camau cadarnhaol, byddwn ni’n gweithredu yn ei herbyn – bydd dyletswydd arnom i dynnu sylw at ddifrifoldeb y sefyllfa.”

Fideo o’r digwyddiad.