Cafodd gwobr newydd am albwm Cymraeg  y flwyddyn ei lansio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych heddiw.

Cafodd y wobr ei lansio gan yr Eisteddfod a’r gobaith yw y bydd y wobr yn dathlu a gwobrwyo cerddoriaeth cyfoes Gymraeg.

Roedd creu’r wobr yn un o argymhellion adolygiad o Maes B a gafodd ei wneud gan yr Eisteddfod yn 2012. Bydd y wobr yn cael yr un statws a medal T H Parry Williams a’r Fedal Wyddoniaeth yn yr Eisteddfod.

Dywedodd Gwenllian Carr, arweinydd yr adolygiad: “Roedd nifer o’r rhai a holwyd yn teimlo bod gan yr Eisteddfod rôl bwysig i’w chwarae yn hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg o bob math.

“Rydym yn gobeithio y bydd Gwobr Albwm y Flwyddyn yn datblygu i fod yn un brif wobrau’r Eisteddfod ac yn atgyfnerthu statws yr Eisteddfod fel prif lwyfan cerddoriaeth Cymru.”

Bydd pob albwm sy’n cael eu rhyddhau mewn blwyddyn o 1 Mawrth i 1 Mawrth yn cael eu hystyried am y wobr a bydd pob arddull cerddorol – o roc i werin ac o ganu corawl i gerddoriaeth arbrofol – yn cael eu hystyried am y wobr.