Christine James
Mae’r Archdderwydd Christine James wedi dweud bod angen denu mwy o ddysgwyr a phobl o wahanol gefndiroedd i’r Eisteddfod – gan gynnwys yr Orsedd.

Daeth sylwadau Christine James, sydd wedi dysgu’r Gymraeg, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych heddiw.

Dywedodd bod angen “newid agwedd” er mwyn denu mwy o bobol i’r maes.

Rhaid newid’

Meddai: “Dw i’n credu bod rhaid i ni newid y ffordd mae pobol yn meddwl am y Cymry Cymraeg. Mae ’na duedd i feddwl am y Cymry Cymraeg fel pobol ddosbarth canol, yn enwedig yng Nghaerdydd, neu rydych chi’n meddwl am y byd amaethyddol yn y gogledd neu’r gorllewin a meddwl am yr iaith fel rhywbeth traddodiadol i’r bobl hynny.

“Ond mae’n amser i ni newid hyn. Fe ddaeth ffigurau’r Cyfrifiad y llynedd a doedden nhw ddim yn gadarnhaol iawn a’r unig ffordd allan ni droi’r sefyllfa o gwmpas yw drwy groesawu a chynnwys Cymry eraill – pobl sy’n gallu siarad Cymraeg, ond sy’n dod o gefndiroedd gwahanol ac o gefndiroedd ieithyddol gwahanol.”

Pobol yn penderfynu

“Pobol sydd wedi penderfynu eu bod nhw am siarad Cymraeg ac wedi mynd ati i ddysgu’r iaith eu hunain,” meddai Christine James.

“Ac mae angen i ni dynnu’r bobl yma i mewn – y rhai sydd wedi cofleidio’r Gymraeg,  oherwydd eu bod nhw am ei siarad hi –  a’u cynnwys nhw yn rhan  o’r weledigaeth.

“Mae’n rhaid i ni eu croesawu nhw ar faes yr Eisteddfod, mae’n rhaid i ni eu croesawu nhw i bob math o sefydliadau eraill hefyd – gan gynnwys yr Orsedd.”

Fideo