Cowbois Rhos Botwnnog
Mae un o leoliadau gigs enwocaf Caerdydd wedi mentro hyrwyddo taith y tu hwnt i ffiniau’r ddinas, gan ymweld â theatrau ledled Cymru.

Bydd Clwb Ifor Bach yn mynd a thri o artistiaid gwerin cyfoes amlycaf Cymru ar daith i 8 o theatrau ar ddiwedd Hydref a dechrau Tachwedd.

Mae cyfle i bobol Ystradgynlais, Y Coed Duon, Pontypridd, Felinfach, Y Drenewydd, Rhosllannerchrugog, Pwllheli a Chaernarfon weld Cowbois Rhos Botwnnog, Georgia Ruth Williams a The Gentle Good mewn amgylchiadau go anghyfarwydd i’r grwpiau.

Mae’r daith hefyd yn brofiad reit newydd i Clwb Ifor Bach a’i hyrwyddwr Guto Brychan sydd wedi gwneud enw i’w hunain yn hyrwyddo gigs yn y brifddinas.

“Mi na’th Clwb Ifor drefnu taith theatrau ar ran Big Leaves amser maith yn ôl” meddai Guto Brychan wrth Golwg360.

“Mi wnaethon ni hefyd gynorthwyo Maes B i drefnu teithiau i fandiau megis Radio Luxembourg, Texas Radio Band a Kentucky AFC, ond dyma’r daith gyntaf i ni drefnu ers sawl blwyddyn.”

Lleoliadau gwahanol

Dyma fydd y tro cyntaf i Glwb Ifor drefnu taith theatrau, ac mae rhoi’r artistiaid mewn awyrgylch wahanol, yn ogystal â mynd a nhw i ardaloedd a lleoliadau newydd yn rhan o nod y daith yn ôl Guto  Brychan.

“Bydd yn gyfle i’r artistiaid berfformio mewn awyrgylch gwahanol i’r arfer, a chyfle hefyd i berfformio i gynulleidfa wahanol sydd ella heb gael cyfle i weld yr artistiaid yma’n perfformio o’r blaen.”

“Cyfres o gigs i hyrwyddo trydydd albwm Cowbois Rhos Botwnnog oedd y syniad gwreiddio.”

“Ro’dd y band yn awyddus i gael cyfle i berfformio eu caneuon mewn awyrgylch theatr, a datblygodd hyn i fod yn daith a dyma wahodd The Gentle Good a Georgia Ruth i’w cefnogi.”

“Bydd y daith yn gyfle prin i gael gweld The Gentle Good yn perfformio caneuon oddi ar ei albwm diwethaf, Tethered for the Storm, efo band llawn, gan gynnwys pedwarawd llinynnol.”

“Bydd Georgia hefyd yn perfformio efo band llawn, ac mae’n siŵr yn chwarae caneuon oddi ar ei albwm newydd am y tro cyntaf.”

Mwy o deithiau’n bosib

Yn ôl yr hyrwyddwr, mae’n bosib iawn y bydd Clwb Ifor Bach yn parhau i arbrofi gyda theithiau eraill tebyg yn y dyfodol.

“Ma hyn yn faes rydym yn gobeithio gwneud mwy o waith ynddo yn y dyfodol”

“Mae’n gyfle gwych i gynnig cyfleoedd gwahanol i artistiaid o Gymru, yn ogystal â chyfle i drefnu digwyddiadau gwahanol i’r hyn rydym yn ei gynnig yn Clwb.”

Mae’r daith yn dechrau yn Neuadd Les Ystradgynlais ar nos Iau 18 Hydref cyn ymweld â 7 o theatrau eraill dros gyfnod o bythefnos

Dyddiadau llawn y daith:

Iau 18 Hydref – Y Neuadd Les, Ystradgynlais

Gwener 19 Hydref – Canolfan Celfyddydau Muni, Pontypridd

Sadwrn 20 Hydref – Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

Mawrth 23 Hydref – Theatr Felinfach

Iau 25 Hydref – Hafren, Y Drenewydd

Gwener 26 Hydref – Theatr Stiwt, Rhosllannerchrugog

Iau 01Tachwedd – Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Gwener 02 Tachwedd – Galeri, Caernarfon