Mae un o glybiau miwsig amlycaf Caerfyrddin, Y Parot, wedi datgan y byddan nhw’n cau am byth ddiwedd y flwyddyn.

Mae’r safle yn cael ei ystyried yn brif hwb i’r Sîn Roc Gymraeg yng ngorllewin Cymru.

Mewn datganiad mae’r Parot wedi talu teyrnged i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r safle dros y blynyddoedd diwethaf, a’n dweud bod “digon o gyfleoedd” i greu atgofion cyn nos Galan.

“Wnaethon ni drio, wnaethon ni wir drio, ond mae wedi dod yn amlwg i ni, er gwaetha ein hymdrechion gorau, nad yw hyn yn gynaliadwy,” meddai’r Parot mewn datganiad.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio yma dros y blynyddoedd, yr holl gerddorion a pherfformwyr sydd wedi perfformio yma, ac i bawb sydd wedi dod i’n digwyddiadau.

“Rydym wedi gweld cymaint o berfformiadau ffantastig, a bydd yr atgofion yn aros gyda ni am byth.”

Er bydd y bar ‘Y Parot’ yn cau, bydd siop recordiau ‘Tangled Parrot’ – sydd wedi’i leoli uwchben y bar – yn parhau ar agor yn yr un adeilad ar Heol y Brenin.

Achub y Parot

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Parot gau ei ddrysau.

Caeodd yr adeilad ym mis Awst 2014 yn sgil trafferthion ariannol, ond yn Hydref yr un flwyddyn cafodd ymgyrch ‘Achub y Parot’ ei lansio.

Llwyddodd ymgyrchwyr a chodi dros £11,000 – yn rhannol â chefnogaeth y comedïwr, Rhod Gilbert – a chafodd y Parot ei achub.