O Abertawe y daw Lauren, ac wrth i’r mentoriaid a chriw y stiwdio wrando ar Lauren am y tro cyntaf, roedd tawelwch byddarol yn yr ystafell wrth iddi ddod â deigryn i lygaid pawb wrth ganu ei fersiwn deimladwy hi o ‘Supermarket Flowers’ Ed Sheeran.

Dywedodd Stifyn yn dilyn ei pherfformiad, “Dw i eisiau ffonio mam i checio ei bod hi’n iawn ar ôl hwnna!’”

Aeth ymlaen i ganu fel angel unwaith eto yn Abertawe gan rhoi cymaint o emosiwn yn ei pherfformiad.

“Fe ddechreuais i berfformio yn ddeg oed, ac ar ôl hynny dechreuais fynychu sesiynau canu felly dw i wedi bod yn canu am bedair blynedd,” meddai.

“Mae perfformio o flaen cynulleidfa yn rhywbeth hollol newydd ond fe wnes i gystadlu ar The Voice Kids eleni, felly mae bach o brofiad gen i.”

Fe fyddai hi wrth ei bodd yn canu deuawd ag Ariana Grande.