Daeth cadarnhad y bydd y band pop poblogaidd o’r 1990au, Diffiniad yn ailffurfio er mwyn perfformio ar Lwyfan y Maes ar nos Wener Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

Fe wnaeth y band anfarwoli clasur o gân ddisco Injaroc, Calon ymhlith cenhedlaeth newydd o ffans cerddoriaeth Gymraeg. Mae rhai o’u caneuon eisoes ar gael ar Spotify ac iTunes, a’u hapêl yn parhau’n eang hyd heddiw.

Bydd yr Eisteddfod yn lansio trêl arbennig ar gyfer y noson ar eu cyfryngau cymdeithasol am 7 o’r gloch heno.

BBC Radio Cymru sy’n noddi’r llwyfan eleni.

Hanes y band

Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, cafodd y band ei ffurfio dan ddylanwad sin ‘House’ Lloegr, a’r band yn perfformio dafliad carreg o glybiau Cream yn Lerpwl a’r Hacienda ym Manceinion.

Roedden nhw’n un o brif fandiau Cymru am flynyddoedd, ond fe ddaethon nhw i ben yn swyddogol ar ôl eu gig olaf ym Maes B yn 2001. 

Dywed un o aelodau’r band, Ian Cottrell fod galw ar i’r band ddod yn ôl at ei gilydd ers blynyddoedd ond “doedd yr amser byth yn iawn”.

Ond dywed fod y band wedi penderfynu mynd amdani ar ôl i Eden ailffurfio i berfformio yn yr un gig y llynedd.

“Ar ôl i Eden berfformio yn y slot yma yn yr Eisteddfod y llynedd, roedden ni’n gwybod mai hwn oedd y slot iawn i ni fel band hefyd, a phan ddaeth yr Eisteddfod atom ni, roedd yn gyfle rhy dda i’w golli. 

“Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at gloi nos Wener ar Lwyfan y Maes BBC Radio Cymru eleni – mae’n dipyn o beth cael dilyn ôl troed artistiaid fel Edward H, Geraint Jarman a Huw Chiswell.”