Richard James (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae aelod o’r  grwp pop o’r 1990au, Gorky’s Zygotic Mynci, wedi cyfansoddi darn o gerddoriaeth glasurol a fydd yn cael ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC y gaeaf hwn.

Mae disgwyl i Richard James berfformio gyda’r Gerddorfa ym Mangor ym mis Tachwedd. Mae’n dilyn ôl-traed seren roc arall – Cian Ciaran o’r Super Furry Animlas – a berfformiodd ei waith clasurol ei hun gyda’r un Gerddorfa ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae Richard James wedi bod yn cyfansoddi’r gwaith dros yr haf ac yn dweud mai tirweddau gwledig, trefol ac arfordirol de a gorllewin Cymru sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo.

Wrth weithio gyda’r cyfansoddwr a’r trefnydd Seb Goldfinch, mae’r cyn-Gorky am greu deunydd newydd sy’n cyfleu sut mae’r tirweddau hyn yn cael effaith ar ein hemosiynau bob dydd.

“Rwy’n hoffi’r profiad ynysig yn ogystal â’r profiad cydweithredol o greu cerddoriaeth, a phrosiectau cysyniadol mwy sy’n cynnwys sawl celfyddyd,” meddai Richard James.

“Rwy’n hoffi’r broses o glymu un weledigaeth wrth syniadau pobol eraill i greu rhywbeth sy’n fwy na’r un ohonom, sydd ar y diwedd, gobeithio, yn creu gwaith diddorol, cyffrous, angerddol ac atyniadol.”

Iwan Cowbois i gefnogi

Bydd y gwaith ar noson y perfformiad yn cael ei arwain gan yr offerynnwr, John Quirk, pryd fydd Richard James yn rhoi premiere byd o’i waith.

Mae disgwyl darnau gwreiddiol yn yr hanner gyntaf gyda’r Gorky sy’n dod yn wreiddiol o Gaerfyrddin yn canu’r gitâr a’r piano. Ar gyfer yr ail hanner, bydd cyfansoddiad o ddeg darn a phob un yn plethu i’w gilydd.

Mae disgwyl i’r artist Angharad Van Rijswijk – fu yn y band Trwbador – lunio darnau o gelf sain i gyd-fynd â’r gwaith. Bu’r ddau yn perfformio yn ddiweddar ar gyfer BBC Radio 3 Late Junction.

Ar y noson, bydd Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog hefyd yn perfformio o’i albwm unigol cyntaf.