Sgarmes, y côr o Aberystwyth
Mae côr o Aberystwyth yn barod am rownd derfynol y gyfres deledu Pitch Battle ar BBC 1 y penwythnos hwn.

“Mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy,” meddai Rhys Pugh-Evans, un o aelodau’r côr wrth golwg360.

“Ni yw’r unig gôr o Gymru … ac mae’r ymateb gan y cyhoedd ac ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn hollol wallgof,” meddai.

Fe fydd y côr yn perfformio ym Manceinion nos Sadwrn yn y gyfres lle mae grwpiau yn canu am yn ail â’i gilydd.

Ymarferion lu

Fe gafodd Sgarmes eu dewis i fynd ymlaen i’r ffeinal gan brif feirniad y gyfres, sef yr arweinydd corawl Gareth Malone.

Fe fyddan nhw’n rhannu llwyfan nos Sadwrn â’r canwr Americanaidd Jermaine Jackson.

“Ry’n ni wedi bod yn ymarfer eithaf tipyn yn yr wythnosau diwethaf, ond mae’r cyfan werth e,” meddai Rhys Pugh-Evans gan esbonio y bydd 6 o grwpiau’n cystadlu nos Sadwrn gyda’r cyhoedd yn pleidleisio am y grŵp buddugol.

‘Cymaint o dalent’

Cafodd Sgarmes ei sefydlu gan y cyfarwyddwr cerddorol, Elinor Powell, yn 2006 am fod “cymaint o dalent yn Aberystwyth rhwng y bobol leol a’r holl fyfyrwyr newydd sy’n dod yma bob blwyddyn,” meddai Rhys Pugh-Evans.

Ychwanegodd fod ganddyn nhw “gysylltiad cryf” â’r clwb rygbi lleol yn Aberystwyth lle maen nhw’n ymarfer.

Yn wreiddiol roedd gan y côr 8 bachgen ac 8 merch fel aelodau – digon i ffurfio sgarmes (sgrym!)

Fe fydd rownd derfynol Pitch Battle yn cael ei darlledu ar BBC 1 nos Sadwrn (Gorffennaf 22) am 7.25yh.