CD unigol Elwyn Wilson Jones o ganeuon ysbrydol
Bu farw Elwyn Jones, baswr Hogia’r Wyddfa, yn 79 oed.

Fel rhan o’r grŵp enwog o Lanberis a ddaeth i amlygrwydd ledled Cymru yn yr 1960au, fe fu’n wyneb ac yn llais cyfarwydd i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg dros gyfnod o fwy na 50 mlynedd.

Er cymaint poblogrwydd ei gyd-gantorion Arwel Jones a Myrddin Owen, does dim amheuaeth bod llais bas unigryw Elwyn yn gwbwl allweddol a hanfodol i apêl yr ‘Hogia’.