Golygfa o'r Dioddefaint yn ôl Ioan a gafodd ei pherfformio yng Nghadeirlan Llandaf (llun: S4c)
Bydd y perfformiad cyntaf erioed yn y Gymraeg o’r ‘Dioddefaint yn ôl Ioan’, un o gampweithiau’r cyfansoddwr JS Bach, i’w weld ar S4C heno.

Cafodd y gwaith ei gyfieithu a’i addasu o’r Almaeneg gan y gantores soprano Elin Manahan Thomas gyda help Heini Gruffydd, ieithydd rhugl ei Almaeneg ac arbenigwr ar ddysgu Cymraeg.

“Roedd ymgymryd â chyfieithu’r gwaith yma i’r Gymraeg yn agos iawn at fy nghalon,” meddai Elin Manahan Thomas.

“Mae stori croeshoeliad a dioddefaint Crist ar y groes a’r ffordd y mae Bach yn cyfleu hyn yn ei waith gwreiddiol mor bwerus.

“Roeddwn i wrth fy modd yn pori dros y geiriau a gwneud i bopeth ffitio a chyd-fynd â’r gerddoriaeth. Mae Heini Gruffudd yn feistr ar yr iaith Almaeneg a’r Gymraeg, a bu’n fraint cael gwneud y cyfieithiad gydag e.”

Cychwynnodd diddordeb Elin Manahan Thomas yng ngwaith Bach pan oedd oddeutu pymtheg oed pan ymunodd â Chôr Bach Abertawe dan arweinyddiaeth John Hugh Thomas.

Dywed mai un o hoff berfformiadau ei gyrfa hyd yma oedd canu ‘Y Dioddefaint yn ôl Ioan’ mewn Almaeneg yn Eglwys Thomaskirche yn Leipzig, y dref lle perfformiodd Bach ei waith ei hun am y tro cyntaf ym 1724.

Ymysg y cantorion a fydd i’w gweld yn perfformio heno mae Elin Manahan Thomas ei hun; y mezzo-soprano Eirlys Myfanwy Davies o Lanelli; y bariton Jeremy Huw Williams o Gaerdydd, y bariton Robert Davies a aned yn Colchester a’r tenor Gwilym Bowen a aned yn Henffordd. Y tenor o Lanfyllin, Rhodri Prys Jones, sy’n canu’r brif ran, Yr Efengylydd.

Mae’r Dioddefaint yn ôl Ioan i’w weld heno ar S4C am 9.00.