Fe fydd un o gorau meibion mwya’ llwyddiannus Cymru’n rhoi’r gorau iddi yn dilyn cyngerdd ffarwel ddechrau mis Rhagfyr.

Sefydlwyd Côr y Traeth yn 1969 er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Môn a gynhaliwyd y flwyddyn honno yn ardal Bro Goronwy, ger Benllech. I ddechrau, roedd yr ymarferion yn cael eu cynnal yn Ysgol Gynradd Pentraeth – ac o’r fan honno y daeth yr enw.

Yr arweinydd cynta’ oedd Magdalen Jones o Benllech sy’n parhau i fod yn llywydd anrhydeddus y côr, ac mae arweinwyr eraill dros y blynyddoedd wedi cynnwys y pianydd, Annette Bryn Parri.

Mae’n rhyfedd meddwl y bydd y côr yn dod i ben ar drothwy ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Sir Fôn ym mis Awst y flwyddyn nesa’.

Ysgrifennydd dair gwaith

Fe ymunodd Gwynfor Roberts a’r côr yn 1971 ac mae wedi bod ysgrifennydd y côr dair gwaith. Mae’n dweud wrth golwg360 bod Côr y Traeth wedi ceisio dod o hyd i arweinydd newydd ers rhyw ddwy flynedd a hanner, ond bod neb eisiau cymryd yr awenau.

“Rydan ni wedi bod yn chwilio am arweinydd sy’n siarad Cymraeg, ond heb lwc,” meddai. “Ond mae’r mwyafrif ohonan ni’n heneiddio hefyd, a does yna ddim llawer o hogiau ifanc yn ymuno a’r côr. Mae’n haws gan hogiau ifanc fynd at griwiau ifanc eraill mewn corau eraill…

“Mae Côr y Traeth wedi ennill rhyw bedair neu pump o weithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mi rydan ni wedi cael cyfleoedd i deithio’r byd dros y degawdau. Y trip cyntaf oedd i Ganada yn 1980… Mi oedden ni yno am ddeg diwrnod yn canu ddwywaith y dydd.

“Ers hynny, rydan ni wedi gweld rhyfeddodau ac wedi bod i Awstria, Gwyl Lorient, Yr Almaen, Hong Kong a chymanfa ganu Gymraeg fawr yn Milwaukee yn America.”

“Mi fydd hi’n chwith heb y côr,” meddai Gwynfor Roberts, “ond mi fydd hi’n newid cael nos Lun adra o hyn ymlaen yn lle mynd i ymarfer.”

Bydd cyngerdd ffarwel Côr y Traeth yn cael ei gynnal yn Eglwys Rhos-Y-Gad yn Llanfairpwll ar Ragfyr 3, gyda gwesteion arbennig. Bydd elw’r noson yn mynd i Gymdeithas Alzheimer.