Plu ar faes Eisteddfod yr Urdd
Un peth dydych chi’n sicr ddim yn brin ohono ar faes Eisteddfod yr Urdd yw cerddoriaeth – boed hynny ar y llwyfan, y stondinau, neu allan ar y llwyfan awyr agored.

Drwy gydol yr wythnos hon fe fydd golwg360 yn sgwrsio â rhai o’r artistiaid sydd wedi mentro i’r maes yng Nghaerffili, gan ei holi nhw ynglŷn â’u prosiectau diweddaraf.

Ac fe cyfle hefyd i chi glywed ambell gân gan y cerddorion hefyd, boed hi’n un o’u rhai gwreiddiol nhw neu’n fersiwn newydd o alaw adnabyddus.

Dydd Llun fe gawson ni sgwrs â Gildas, neu Arwel Lloyd, wrth iddo drafod ei drydydd albwm ‘Paid a Deud’ a chwarae cân i ni.

Ac heddiw rydyn ni’n dod a sgwrs a chân gan fand gwerin Plu, sydd hefyd wedi bod yn diddori pobl ar y maes heddiw.

Mae Plu yn fand o dri brawd a chwaer – Elan, Marged a Gwilym – o Ogledd Cymru a llynedd fe ryddhaodd y grŵp eu hail albwm Holl Anifeiliaid y Goedwig.

Fe berfformiodd y triawd ddwy gân i ni ar faes Eisteddfod yr Urdd, ‘Tir a Golau’ (sef teitl eu halbwm newydd) a’u fersiwn nhw o ‘Dwynwen’ gan Endaf Emlyn.

Gallwch wrando ar y sgwrs a chân yma:

Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Plu, a chael mwy o wybodaeth am eu cynnyrch, ar eu gwefan a’i tudalennau Twitter, Facebook a Soundcloud.