Catrin Finch Llun: Rhys Frampton
Bydd y delynores adnabyddus Catrin Finch yn rhyddhau albwm newydd fis Mawrth o ddarnau y mae hi wedi cyfansoddi ei hun.

Tides fydd y tro cyntaf y bydd casgliad o waith gwreiddiol Catrin Finch yn ymddangos ar y llwyfan yn ogystal â bod ar gael ar ffurf record.

Ac fe fydd y delynores yn mynd ar daith drwy Gymru ym mis Mai er mwyn perfformio’r darnau oddi ar yr albwm.

‘Fy holl fywyd cerddorol’

Un ar ddeg o draciau sydd ar Tides, ac yn ogystal â chanu’r delyn mae Catrin Finch hefyd yn canu’r piano ar gyfer nifer o’r darnau.

Mae’r albwm hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan artistiaid megis y gantores a’r chwaraewr duduk Belinda Sykes, y feiolinydd Bogdan Vacarescu, a Chôr Caerdydd.

“Mae fy holl fywyd cerddorol i yma,” meddai Catrin Finch ynglŷn â’r albwm, fydd yn cael ei chyhoeddi o dan ei label Acapela ei hun.

Taith

Bydd Tides yn cael ei rhyddhau ar 23 Mawrth, gyda pherfformiadau gan Catrin Finch yn Acapela, Caerdydd ar 19 Mawrth ac yn Union Chapel, Llundain ar 24 Mawrth.

Yna rhwng 21 a 26 Mai fe fydd hi’n teithio drwy Gymru, gan berfformio mewn cyngherddau yn Aberteifi, Aberystwyth, Pwllheli, Rhosllannerchrugog, Aberdaugleddau a Gŵyl y Gelli.

Hon fydd 13eg albwm y delynores sydd yn wreiddiol o Lanon yng Ngheredigion, a fu’n Delynores Swyddogol i’r Tywysog Siarl rhwng 2000 a 2004.